14 Daethon ni o hyd i grŵp o gredinwyr yno, a chael gwahoddiad i aros gyda nhw am wythnos. Yna, o'r diwedd, dyma ni'n cyrraedd Rhufain.
15 Roedd y Cristnogion yno wedi clywed ein bod ni'n dod, ac roedd rhai wedi teithio i lawr cyn belled â Marchnad Apius i'n cyfarfod ni, ac eraill at y Tair Tafarn. Roedd gweld y bobl yma'n galondid mawr i Paul, a diolchodd i Dduw am fod mor ffyddlon.
16 Yn Rhufain cafodd Paul ganiatâd i fyw yn ei lety ei hun, ond fod milwr yno i'w warchod.
17 Dri diwrnod ar ôl cyrraedd Rhufain dyma Paul yn galw'r arweinwyr Iddewig yno at ei gilydd. “Frodyr,” meddai wrthyn nhw: “er na wnes i ddim byd yn erbyn ein pobl, na dim sy'n groes i arferion ein hynafiaid, ces fy arestio yn Jerwsalem ac yna fy nhrosglwyddo i ddwylo'r Rhufeiniaid.
18 Dyma'r llys yn fy nghael i'n ddieuog o unrhyw drosedd oedd yn haeddu marwolaeth, ac roedden nhw am fy rhyddhau i.
19 Ond dyma'r arweinwyr Iddewig yn codi gwrthwynebiad a ces fy ngorfodi i apelio i Gesar – nid fod gen i unrhyw gyhuddiad i'w ddwyn yn erbyn fy mhobl.
20 Gofynnais am gael eich gweld chi er mwyn esbonio hyn i gyd i chi. Y rheswm pam mae'r gadwyn yma arna i ydy am fy mod i yn credu yn y Meseia, Gobaith Israel!”