15 Roedd ei draed yn gloywi fel efydd mewn ffwrnais, a'i lais fel sŵn rhaeadrau o ddŵr.
16 Yn ei law dde roedd yn dal saith seren, ac roedd cleddyf miniog yn dod allan o'i geg. Roedd ei wyneb yn disgleirio'n llachar fel yr haul ganol dydd.
17 Pan welais e, dyma fi'n llewygu wrth ei draed. Yna cyffyrddodd fi â'i law dde, a dweud wrtho i: “Paid bod ag ofn. Fi ydy'r Cyntaf a'r Olaf,
18 yr Un Byw. Roeddwn i wedi marw, ond edrych! – dw i'n fyw am byth bythoedd! Gen i mae allweddi Marwolaeth a Byd y Meirw.
19 Felly, ysgrifenna beth rwyt ti'n ei weld, sef beth sy'n digwydd nawr, a beth sy'n mynd i ddigwydd yn fuan.
20 “Ystyr cudd y saith seren welaist ti yn fy llaw dde i a'r saith canhwyllbren aur ydy hyn: Mae'r saith seren yn cynrychioli arweinwyr y saith eglwys, a'r saith canhwyllbren yn cynrychioli'r saith eglwys.”