15 Felly gwnaeth chwip o reffynnau, a'u gyrru nhw i gyd allan o'r deml gyda'r defaid a'r ychen. Chwalodd holl arian y rhai oedd yn cyfnewid arian, a throi eu byrddau drosodd.
16 Yna meddai wrth y rhai oedd yn gwerthu colomennod “Ewch â'r rhain allan oddi yma! Stopiwch droi tŷ fy Nhad i yn farchnad!”
17 Yna cofiodd ei ddisgyblion fod yr ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Bydd fy sêl dros dy dŷ di yn fy meddiannu i.”
18 Ond dyma'r arweinwyr Iddewig yn ei herio, “Pa arwydd gwyrthiol wnei di i brofi i ni fod gen ti hawl i wneud hyn i gyd?”
19 Atebodd Iesu nhw, “Dinistriwch y deml hon, a gwna i ei hadeiladu hi eto o fewn tri diwrnod.”
20 Atebodd yr arweinwyr Iddewig, “Mae'r deml wedi bod yn cael ei hadeiladu ers pedwar deg chwech mlynedd! Wyt ti'n mynd i'w hadeiladu mewn tri diwrnod?”
21 (Ond y deml oedd Iesu'n sôn amdani oedd ei gorff.