3 Pan doedd dim gwin ar ôl, dyma fam Iesu'n dweud wrtho, “Does ganddyn nhw ddim mwy o win.”
4 Atebodd Iesu, “Mam annwyl, gad lonydd i mi. Paid busnesa. Dydy fy amser i ddim wedi dod eto.”
5 Ond dwedodd ei fam wrth y gweision, “Gwnewch beth bynnag fydd yn ei ddweud wrthoch chi.”
6 Roedd chwech ystên garreg wrth ymyl (y math sy'n cael eu defnyddio gan yr Iddewon i ddal dŵr ar gyfer y ddefod o ymolchi seremonïol). Roedd pob un ohonyn nhw'n dal rhwng wyth deg a chant dau ddeg litr.
7 Dwedodd Iesu wrth y gweision, “Llanwch yr ystenau yma gyda dŵr.” Felly dyma nhw'n eu llenwi i'r top.
8 Yna dwedodd wrthyn nhw, “Cymerwch beth ohono a mynd ag e i lywydd y wledd.” Dyma nhw'n gwneud hynny,
9 a dyma llywydd y wledd yn blasu'r dŵr oedd wedi ei droi'n win. Doedd ganddo ddim syniad o ble roedd wedi dod (ond roedd y gweision oedd wedi codi'r dŵr yn gwybod). Yna galwodd y priodfab ato