14 Roedd hi dros hanner ffordd drwy'r Ŵyl cyn i Iesu fynd i gwrt allanol y deml a dechrau dysgu yno.
15 Roedd yr arweinwyr crefyddol yn rhyfeddu ac yn gofyn, “Ble cafodd y dyn y fath wybodaeth heb fod wedi cael ei hyfforddi?”
16 Atebodd Iesu, “Dim fi biau'r ddysgeidiaeth. Mae'n dod oddi wrth Dduw, yr un anfonodd fi.
17 Bydd pwy bynnag sy'n dewis gwneud beth mae Duw eisiau yn darganfod fod beth dw i'n ei ddysgu yn dod oddi wrth Dduw, a fy mod i ddim yn siarad ar fy liwt fy hun.
18 Mae'r rhai sy'n siarad ohonyn nhw eu hunain yn ceisio ennill anrhydedd iddyn nhw eu hunain, ond mae'r un sy'n gweithio i anrhydeddu'r un wnaeth ei anfon e yn ddyn gonest; does dim byd ffals amdano.
19 Oni wnaeth Moses roi'r Gyfraith i chi? Ac eto does neb ohonoch chi'n ufuddhau i'r Gyfraith. Pam dych chi'n ceisio fy lladd i?”
20 “Mae cythraul yn dy wneud di'n wallgof,” atebodd y dyrfa. “Pwy sy'n ceisio dy ladd di?”