19 Oni wnaeth Moses roi'r Gyfraith i chi? Ac eto does neb ohonoch chi'n ufuddhau i'r Gyfraith. Pam dych chi'n ceisio fy lladd i?”
20 “Mae cythraul yn dy wneud di'n wallgof,” atebodd y dyrfa. “Pwy sy'n ceisio dy ladd di?”
21 Meddai Iesu wrthyn nhw, “Gwnes i un wyrth ar y dydd Saboth, a dych chi i gyd mewn sioc!
22 Ac eto, am fod Moses wedi dweud fod rhaid i chi gadw defod enwaedu (er mai dim gan Moses ddaeth hi mewn gwirionedd, ond gan dadau'r genedl), dych chi'n enwaedu bachgen ar y Saboth.
23 Nawr, os ydy'n iawn i fachgen gael ei enwaedu ar ddydd Saboth er mwyn peidio torri Cyfraith Moses, pam dych chi wedi gwylltio am fy mod i wedi iacháu rhywun yn llwyr ar y Saboth?
24 Stopiwch fod mor arwynebol wrth farnu; barnwch yn gywir bob amser.”
25 Roedd rhai o bobl Jerwsalem yn gofyn, “Onid hwn ydy'r dyn maen nhw'n ceisio'i ladd?