4 Ai Duw anfonodd Ioan i fedyddio neu ddim?”
5 Wrth drafod y peth gyda'i gilydd, dyma nhw'n dweud, “Os atebwn ni ‘Ie’, bydd yn gofyn, ‘Pam doeddech chi ddim yn ei gredu?’
6 Ond allwn ni ddim dweud ‘Na’ … Bydd y bobl yn ein llabyddio ni â cherrig. Maen nhw'n credu'n gwbl bendant fod Ioan yn broffwyd.”
7 Felly dyma nhw'n dweud eu bod nhw ddim yn gwybod yr ateb.
8 “Felly dw i ddim yn mynd i ateb eich cwestiwn chi chwaith,” meddai Iesu.
9 Aeth yn ei flaen i ddweud y stori yma wrth y bobl: “Roedd dyn wedi plannu gwinllan. Gosododd y winllan ar rent i rhyw ffermwyr cyn mynd i ffwrdd am amser hir.
10 Pan oedd hi'n amser casglu'r grawnwin anfonodd un o'i weision i nôl y siâr roedd y tenantiaid i fod i'w rhoi iddo. Ond dyma'r tenantiaid yn curo'r gwas a'i anfon i ffwrdd heb ddim.