21 Dych chi sy'n llwgu ar hyn o bryd wedi'ch bendithio'n fawr,oherwydd cewch chi wledd fydd yn eich bodloni'n llwyr ryw ddydd.Dych chi sy'n crïo ar hyn o bryd wedi'ch bendithio'n fawr,oherwydd cewch chwerthin yn llawen ryw ddydd.
22 Dych chi wedi'ch bendithio'n fawr pan fydd pobl yn eich casáua'ch cau allan a'ch sarhau, a'ch enwau'n cael eu pardduoam eich bod yn perthyn i mi, Mab y Dyn.
23 “Felly byddwch yn llawen pan mae'r pethau yma'n digwydd! Neidiwch o lawenydd! Achos mae gwobr fawr i chi yn y nefoedd. Cofiwch mai dyna'n union sut roedd hynafiaid y bobl yma yn trin y proffwydi.
24 Ond gwae chi sy'n gyfoethog,oherwydd dych chi eisoes wedi cael eich bywyd braf.
25 Gwae chi sydd â hen ddigon i'w fwyta,oherwydd daw'r dydd pan fyddwch chi'n llwgu.Gwae chi sy'n chwerthin yn ddi-hid ar hyn o bryd,oherwydd byddwch yn galaru ac yn crïo.
26 Gwae chi sy'n cael eich canmol gan bawb,oherwydd dyna roedd hynafiaid y bobl yma'n ei wneud i'r proffwydi ffug.
27 “Dw i'n dweud wrthoch chi sy'n gwrando: Carwch eich gelynion, gwnewch ddaioni i'r bobl sy'n eich casáu chi,