4 Aeth i mewn i dŷ Dduw, a bwyta'r bara oedd wedi ei gysegru a'i osod yn offrwm i Dduw. Mae'r Gyfraith yn dweud fod ganddo fe a'i ddilynwyr ddim hawl i'w fwyta; dim ond yr offeiriaid oedd â hawl.
5 Neu ydych chi ddim wedi darllen beth mae'r Gyfraith yn ei ddweud am y Saboth? Mae'r offeiriaid yn torri rheolau'r Saboth trwy weithio yn y deml! Ac eto maen nhw'n cael eu cyfri'n ddieuog.
6 Gwrandwch – mae rhywbeth mwy na'r deml yma!
7 Petaech chi wedi deall ystyr y gosodiad, ‘Trugaredd dw i eisiau, nid aberthau,’ fyddech chi ddim yn condemnio'r dieuog.
8 Mae gen i, Fab y Dyn, hawl i ddweud beth sy'n iawn ar y Saboth.”
9 Aeth oddi yno a mynd i'w synagog nhw,
10 ac roedd dyn yno oedd â'i law yn ddiffrwyth. Roedden nhw'n edrych am unrhyw esgus i gyhuddo Iesu, felly dyma nhw'n gofyn iddo, “Ydy'r Gyfraith yn dweud ei bod hi'n iawn i iacháu pobl ar y Saboth?”