22 Wedyn yr had syrthiodd i ganol drain ydy'r sawl sy'n clywed y neges, ond mae'n rhy brysur yn poeni am hyn a'r llall ac yn ceisio gwneud arian. Felly mae'r neges yn cael ei thagu a does dim ffrwyth i'w weld yn ei fywyd.
23 Ond yr had sy'n syrthio ar dir da ydy'r sawl sy'n clywed y neges ac yn ei deall. Mae'r effaith fel cnwd anferth – can gwaith neu chwe deg gwaith neu dri deg gwaith mwy na gafodd ei hau.”
24 Dwedodd Iesu stori arall wrthyn nhw: “Mae teyrnasiad yr Un nefol fel dyn yn hau had da yn ei gae.
25 Tra oedd pawb yn cysgu, dyma rywun oedd yn ei gasáu yn hau chwyn yng nghanol y gwenith.
26 Pan ddechreuodd y gwenith egino a thyfu, daeth y chwyn i'r golwg hefyd.
27 “Daeth gweision y ffermwr ato a dweud, ‘Feistr, onid yr had gorau gafodd ei hau yn dy gae di? O ble mae'r holl chwyn yma wedi dod?’
28 “‘Rhywun sy'n fy nghasáu i sy'n gyfrifol am hyn’ meddai.“‘Felly, wyt ti am i ni fynd i godi'r chwyn?’ meddai ei weision.