11 Ydych chi ddim yn gweld mod i ddim yn siarad am fara go iawn? Dw i am i chi gadw draw oddi wrth furum y Phariseaid a'r Sadwceaid.”
12 Roedden nhw'n deall wedyn ei fod ddim sôn am fara go iawn; eisiau iddyn nhw osgoi dysgeidiaeth y Phariseaid a'r Sadwceaid oedd e.
13 Pan gyrhaeddodd Iesu ardal Cesarea Philipi, gofynnodd i'w ddisgyblion, “Pwy mae pobl yn ei ddweud ydw i, Mab y Dyn?”
14 “Mae rhai yn dweud Ioan Fedyddiwr,” medden nhw, “eraill yn dweud Elias, ac eraill eto'n dweud Jeremeia neu un o'r proffwydi.”
15 “Ond beth amdanoch chi?” meddai. “Pwy dych chi'n ddweud ydw i?”
16 Atebodd Simon Pedr, “Ti ydy'r Meseia, Mab y Duw byw.”
17 “Rwyt ti wedi dy fendithio'n fawr, Simon fab Jona,” meddai Iesu, “am mai dim person dynol ddangosodd hyn i ti, ond fy Nhad yn y nefoedd.