1 Yna dyma Iesu'n dweud wrth y dyrfa ac wrth ei ddisgyblion:
2 “Mae'r arbenigwyr yn y Gyfraith a'r Phariseaid â'r hawl i ddehongli Cyfraith Moses,
3 ac wrth gwrs ‘Dylech chi wrando arnyn nhw a gwneud popeth maen nhw'n ei ddweud.’ Ond peidiwch dilyn eu hesiampl nhw – dŷn nhw ddim yn byw beth maen nhw'n ei bregethu.
4 Maen nhw'n gosod beichiau trwm ar ysgwyddau pobl, rheolau crefyddol sy'n eu llethu nhw, ond wnân nhw ddim codi bys bach i helpu pobl i gario'r baich.
5 “Maen nhw'n gwneud popeth er mwyn dangos eu hunain. Maen nhw'n gwneud yn siŵr fod y blychau gweddi ar eu breichiau a'u talcennau yn amlwg, a'r taselau hirion ar eu clogyn yn dangos mor dduwiol ydyn nhw.
6 Maen nhw wrth eu bodd yn cael y seddi gorau mewn gwleddoedd a'r seddi pwysica yn y synagogau,