15 “Gwae chi'r arbenigwyr yn y Gyfraith a Phariseaid! Dych chi mor ddauwynebog! Dych chi'n barod i deithio dros fôr a thir i gael un person i gredu yr un fath â chi. Ond yna dych chi'n ei droi'n blentyn uffern – ddwywaith gwaeth na chi'ch hunain!
16 “Gwae chi! Arweinwyr dall ydych chi! Er enghraifft, dych chi'n dweud: ‘Os ydy rhywun yn enwi'r deml wrth dyngu llw, dydy'r llw ddim yn ddilys; ond os ydy rhywun yn enwi trysor y deml, mae wedi ei rwymo gan ei lw.’
17 Y ffyliaid dall! Pa un ydy'r pwysica – y trysor, neu'r deml sy'n gwneud y trysor yn gysegredig?
18 “Dyma enghraifft arall: ‘Os ydy rhywun yn enwi'r allor wrth dyngu llw, dydy'r llw ddim yn ddilys; ond os ydy rhywun yn enwi'r offrwm ar yr allor, mae wedi ei rwymo gan ei lw.’
19 Dych chi mor ddall! Pa un ydy'r pwysica – yr offrwm, neu'r allor sy'n gwneud yr offrwm yn gysegredig?
20 Os ydy rhywun yn enwi'r allor wrth dyngu llw, mae hynny'n cynnwys popeth sydd arni hefyd!
21 Ac os ydy rhywun yn enwi'r deml wrth dyngu llw, mae hefyd yn cyfeirio at Dduw, sy'n bresennol yn y deml.