1 Felly dw i'n gofyn eto: Ydy Duw wedi troi cefn ar ei bobl? Nac ydy, wrth gwrs ddim! Israeliad ydw i fy hun cofiwch – un o blant Abraham, o lwyth Benjamin.
2 Felly dydy Duw ddim wedi troi ei gefn ar y bobl oedd wedi eu dewis o'r dechrau. Ydych chi'n cofio beth mae'r ysgrifau sanctaidd yn ei ddweud? Roedd Elias yn cwyno am bobl Israel, ac yn dweud fel hyn:
3 “Arglwydd, maen nhw wedi lladd dy broffwydi di a dinistrio dy allorau. Fi ydy'r unig un sydd ar ôl, ac maen nhw'n ceisio fy lladd innau hefyd!”
4 Beth oedd ateb Duw iddo? Dyma ddwedodd Duw: “Mae gen i saith mil o bobl eraill sydd heb fynd ar eu gliniau i addoli Baal.”
5 Ac mae'r un peth yn wir heddiw – mae Duw yn ei haelioni wedi dewis cnewyllyn o Iddewon i gael eu hachub.
6 Ac os mai dim ond haelioni Duw sy'n eu hachub nhw, dim beth maen nhw yn ei wneud sy'n cyfri bellach. Petai hynny'n cyfri fyddai Duw ddim yn hael!