4 Dau wnaeth fentro eu bywydau er fy mwyn i. A dim fi ydy'r unig un sy'n ddiolchgar iddyn nhw, ond holl eglwysi'r cenhedloedd hefyd!
5 Cofion hefyd at yr eglwys sy'n cyfarfod yn eu tŷ nhw.Cofiwch fi at fy ffrind annwyl Epainetws – y person cyntaf yn Asia i ddod yn Gristion.
6 Cofiwch fi at Mair, sydd wedi bod yn gweithio'n galed ar eich rhan.
7 Hefyd at Andronicus a Jwnia, cyd-Iddewon fuodd yn y carchar gyda mi. Mae nhw'n adnabyddus fel cynrychiolwyr i'r Arglwydd – roedden nhw'n credu yn y Meseia o'm blaen i.
8 Cofion at Ampliatus, sy'n ffrind annwyl i mi yn yr Arglwydd.
9 Cofion hefyd at Wrbanus, sy'n gweithio gyda ni dros y Meseia, ac at fy ffrind annwyl Stachus.
10 Cofiwch fi at Apeles, sydd wedi profi ei hun yn ffyddlon i'r Meseia.Cofion at bawb sy'n gwasanaethu yn nhŷ Aristobwlus.