26 Ac mae'r Ysbryd yn ein helpu ni hefyd yn ein cyflwr gwan presennol. Wyddon ni ddim yn iawn beth i'w weddïo, ond mae'r Ysbryd ei hun yn gofyn ar ein rhan ni. Mae yntau'n griddfan – dydy geiriau ddim yn ddigon.
27 Ond mae Duw yn gwybod beth sydd yng nghalon pawb, ac mae'n gwybod beth ydy bwriad yr Ysbryd. Mae'r Ysbryd yn gofyn i Dduw am y pethau mae Duw yn awyddus i'w rhoi i'w blant.
28 Dŷn ni'n gwybod fod Duw'n trefnu popeth er lles y rhai sy'n ei garu – sef y rhai mae wedi eu galw i gyflawni ei fwriadau.
29 Roedd yn gwybod pwy fyddai'n bobl iddo, ac roedd wedi eu dewis ymlaen llaw i fod yn debyg i'w Fab. (Y Mab, sef y Meseia Iesu, ydy'r plentyn hynaf, ac mae ganddo lawer iawn o frodyr a chwiorydd).
30 Ar ôl eu dewis ymlaen llaw, galwodd nhw ato'i hun. Mae'n eu derbyn nhw i berthynas iawn ag e'i hun, ac wedyn yn rhannu ei ysblander gyda nhw.
31 Felly, beth mae hyn yn ei olygu? Os ydy Duw ar ein hochr ni, does dim ots pwy sy'n ein herbyn ni!
32 Wnaeth Duw ddim hyd yn oed arbed ei Fab ei hun! Rhoddodd e yn aberth i farw yn ein lle ni i gyd. Felly oes yna unrhyw beth dydy e ddim yn fodlon ei roi i ni?