1 Gweledigaeth Obadeia.Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW am Edom(clywsom genadwri gan yr ARGLWYDD;anfonwyd cennad i blith y cenhedloedd:“Codwch! Gadewch inni fynd i frwydr yn eu herbyn”):
2 “Wele, gwnaf di'n fychan ymysg y cenhedloedd,ac fe'th lwyr ddirmygir.
3 Twyllwyd di gan dy galon falch,ti sy'n byw yn agennau'r graig,a'th drigfan yn uchel;dywedi yn dy galon,‘Pwy a'm tyn i'r llawr?’
4 Er iti esgyn cyn uched â'r eryr,a gosod dy nyth ymysg y sêr,fe'th hyrddiaf i lawr oddi yno,” medd yr ARGLWYDD.
5 “Pe dôi lladron atat,neu ysbeilwyr liw nos(O fel y'th ddinistriwyd!),onid digon iddynt eu hunain yn unig a ysbeilient?Pe dôi cynaeafwyr grawnwin atat,oni adawent loffion?