12 Ni ddylit ymfalchïo ar ddydd dy frawd,dydd ei drallod.Ni ddylit lawenhau dros blant Jwdaar ddydd eu dinistr;ni ddylit wneud sbortar ddydd gofid.
13 Ni ddylit fynd i borth fy mhoblar ddydd eu hadfyd;ni ddylit ymfalchïo yn eu dinistrar ddydd eu hadfyd;ni ddylit ymestyn am eu heiddoar ddydd eu hadfyd.
14 Ni ddylit sefyll ar y groesfforddi ddifa eu ffoaduriaid;ni ddylit drosglwyddo'r rhai a ddihangoddar ddydd gofid.”
15 “Y mae dydd yr ARGLWYDD yn agos;daw ar yr holl genhedloedd.Fel y gwnaethost ti y gwneir i ti;fe ddychwel dy weithredoedd ar dy ben dy hun.
16 Fel yr yfaist ar fy mynydd sanctaidd,fe yf yr holl genhedloedd yn ddi-baid;yfant a llowciant,a mynd yn anymwybodol.”
17 “Ond ym Mynydd Seion bydd rhai dihangola fydd yn sanctaidd;meddianna tŷ Jacob ei eiddo'i hun.
18 A bydd tŷ Jacob yn dân,tŷ Joseff yn fflam,a thŷ Esau yn gynnud;fe'i cyneuant a'i losgi,ac ni fydd gweddill o dŷ Esau,oherwydd llefarodd yr ARGLWYDD.