18 A bydd tŷ Jacob yn dân,tŷ Joseff yn fflam,a thŷ Esau yn gynnud;fe'i cyneuant a'i losgi,ac ni fydd gweddill o dŷ Esau,oherwydd llefarodd yr ARGLWYDD.
19 Bydd y Negef yn meddiannu mynydd Esau,a'r Seffela yn meddiannu gwlad y Philistiaid;byddant yn meddiannu tir Effraim a thir Samaria,a bydd Benjamin yn meddiannu Gilead.
20 Bydd pobl Israel, caethgludion y fyddin,yn meddiannu Canaan hyd Sareffath;a chaethgludion Jerwsalem yn Seffaradyn meddiannu dinasoedd y Negef.
21 Bydd gwaredwyr yn mynd i fyny i Fynydd Seion,i reoli mynydd Esau;a bydd y frenhiniaeth yn eiddo i'r ARGLWYDD.”