1 Yna dywedodd ei mam-yng-nghyfraith Naomi wrthi, “Fy merch, oni ddylwn i chwilio am gartref iti, er dy les?
2 Yn awr, onid perthynas i ni yw Boas, y buost gyda'i lancesau?
3 Edrych, y mae ef yn mynd i nithio haidd yn y llawr dyrnu heno. Wedi iti ymolchi ac ymbincio a rhoi dy wisg orau amdanat, dos at y llawr dyrnu, ond paid â gadael iddo d'adnabod nes iddo orffen bwyta ac yfed.
4 Pan â i orwedd, sylwa ymhle y mae'n cysgu, yna dos a chodi'r dillad o gwmpas ei draed a gorwedd i lawr. Wedyn fe ddywed ef wrthyt beth i'w wneud.”
5 Cytunodd hithau i wneud y cwbl a ddywedodd Naomi wrthi.