12 Yn awr, y mae'n hollol wir fy mod yn berthynas agos, ond y mae un arall sy'n nes na mi.
13 Aros yma heno; ac yfory, os bydd ef am weithredu fel perthynas, popeth yn iawn; gwnaed hynny. Ond os nad yw'n barod i wneud hynny, yna fe wnaf fi, cyn wired â bod yr ARGLWYDD yn fyw. Cwsg tan y bore.”
14 Cysgodd hithau wrth ei draed tan y bore; yna fe gododd, cyn y gallai neb adnabod ei gilydd. Yr oedd ef wedi gorchymyn nad oedd neb i wybod bod y ferch wedi dod i'r llawr dyrnu.
15 Ac meddai wrthi, “Estyn y fantell sydd amdanat, a dal hi.” A thra oedd hi yn ei dal, mesurodd yntau iddi chwe mesur o haidd a'i osod ar ei hysgwydd, ac aeth hithau i'r dref.
16 Wedi iddi gyrraedd gofynnodd ei mam-yng-nghyfraith, “Sut y bu hi gyda thi, fy merch?” Adroddodd hithau wrthi'r cwbl a wnaeth y dyn iddi.
17 Dywedodd, “Rhoddodd imi'r chwe mesur hyn o haidd oherwydd, meddai wrthyf, ‘Ni chei fynd yn waglaw at dy fam-yng-nghyfraith’.”
18 Yna dywedodd Naomi, “Aros, fy merch, nes y cei wybod sut y try pethau; oherwydd ni fydd y dyn yna'n gorffwys cyn gorffen y mater heddiw.”