13 Wedi i Boas gymryd Ruth yn wraig iddo, aeth i mewn ati a pharodd yr ARGLWYDD iddi feichiogi, ac esgorodd ar fab.
14 Ac meddai'r gwragedd wrth Naomi, “Bendigedig fyddo'r ARGLWYDD am iddo beidio â'th adael heddiw heb berthynas; bydded ef yn enwog yn Israel.
15 Bydd ef yn adnewyddu dy fywyd ac yn dy gynnal yn dy henaint, oherwydd dy ferch-yng-nghyfraith, sy'n dy garu, yw ei fam; ac y mae hi'n well na saith o feibion i ti.”
16 Cymerodd Naomi y bachgen a'i ddodi yn ei chôl a'i fagu.
17 Rhoddodd y cymdogesau enw iddo a dweud, “Ganwyd mab i Naomi.” Galwasant ef Obed; ef oedd tad Jesse, tad Dafydd.
18 Dyma achau Peres: Peres oedd tad Hesron,
19 Hesron oedd tad Ram, Ram oedd tad Amminadab,