5 Yna meddai Boas, “Y diwrnod y pryni di'r tir gan Naomi, yr wyt hefyd yn cymryd Ruth y Foabes, gwraig gŵr a fu farw, i gadw enw'r marw ar ei etifeddiaeth.”
6 Atebodd y perthynas, “Ni fedraf ei brynu heb ddifetha f'etifeddiaeth fy hun. Pryn di ef, oherwydd ni allaf fi.”
7 Erstalwm dyma fyddai'r arfer yn Israel wrth brynu'n ôl a throsglwyddo eiddo: er mwyn cadarnhau unrhyw gytundeb byddai'r naill yn tynnu ei esgid ac yn ei rhoi i'r llall. Dyna oedd dull ardystio yn Israel.
8 Felly, pan ddywedodd y perthynas wrth Boas, “Pryn ef i ti dy hun”, fe dynnodd ei esgid.
9 A dywedodd Boas wrth yr henuriaid a'r bobl i gyd, “Yr ydych chwi yn dystion fy mod i heddiw wedi prynu holl eiddo Elimelech a holl eiddo Chilion a Mahlon o law Naomi.
10 Yr wyf hefyd wedi prynu Ruth y Foabes, gweddw Mahlon, yn wraig imi i gadw enw'r marw ar ei etifeddiaeth, rhag i'w enw gael ei ddiddymu o fysg ei dylwyth ac o'i fro. Yr ydych chwi heddiw yn dystion o hyn.”
11 Dywedodd pawb oedd yn y porth, a'r henuriaid hefyd, “Yr ydym yn dystion; bydded i'r ARGLWYDD beri i'r wraig sy'n dod i'th dŷ fod fel Rachel a Lea, y ddwy a gododd dŷ Israel; bydded iti lwyddo yn Effrata, ac ennill enw ym Methlehem.