12 “Yn yr amser hwnnwchwiliaf Jerwsalem â llusernau,a chosbaf y rhai sy'n ymbesgi uwch eu gwaddodac yn dweud wrthynt eu hunain,‘Ni wna'r ARGLWYDD na da na drwg.’
13 Anrheithir eu cyfoetha difethir eu tai;codant dai, ond ni chânt fyw ynddynt;plannant winllannoedd, ond ni chânt yfed eu gwin.”
14 Y mae dydd mawr yr ARGLWYDD yn agos,yn agos ac yn dod yn gyflym;chwerw yw trwst dydd yr ARGLWYDD,ac yna y gwaedda'r rhyfelwr yn uchel.
15 Dydd dicter yw'r dydd hwnnw,dydd blinder a gofid,dydd dinistr a difrod,dydd tywyllwch a düwch,dydd cymylau a chaddug,
16 dydd utgorn a bloedd rhyfelyn erbyn y dinasoedd caerogac yn erbyn y tyrau uchel.
17 “Mi ddof â thrybini ar bobl,a cherddant fel deillion;am iddynt bechu yn erbyn yr ARGLWYDDtywelltir eu gwaed fel llwcha'u perfedd fel tom,
18 ac ni all eu harian na'u haur eu gwaredu.”Ar ddydd dicter yr ARGLWYDDysir yr holl dir â thân ei lid,oherwydd gwna ddiwedd, ie, yn fuan,ar holl drigolion y ddaear.