3 “Ysgubaf ymaith ddyn ac anifail;ysgubaf ymaith adar y nefoedd a physgod y môr;darostyngaf y rhai drygionus,a thorraf ymaith ddyn oddi ar wyneb y ddaear,” medd yr ARGLWYDD.
4 “Estynnaf fy llaw yn erbyn Jwdaac yn erbyn holl drigolion Jerwsalem;a thorraf ymaith o'r lle hwn weddill Baal,ac enw'r offeiriaid gau,
5 a'r rhai sy'n ymgrymu ar bennau'r tai i lu'r nef,y rhai sy'n ymgrymu ac yn tyngu i'r ARGLWYDDond hefyd yn tyngu i Milcom,
6 a'r rhai sydd wedi cefnu ar yr ARGLWYDD,ac nad ydynt yn ceisio'r ARGLWYDD nac yn ymgynghori ag ef.”
7 Distawrwydd o flaen yr Arglwydd DDUW!Oherwydd y mae dydd yr ARGLWYDD yn agos;y mae'r ARGLWYDD wedi paratoi aberthac wedi cysegru ei wahoddedigion.
8 “Ac ar ddydd aberth yr ARGLWYDDmi gosbaf y swyddogion a'r tŷ brenhinol,a phawb sy'n gwisgo dillad estron.
9 Ar y dydd hwnnwmi gosbaf bawb sy'n camu dros y rhiniogac yn llenwi tŷ eu harglwydd â thrais a thwyll.