8 “Ac ar ddydd aberth yr ARGLWYDDmi gosbaf y swyddogion a'r tŷ brenhinol,a phawb sy'n gwisgo dillad estron.
9 Ar y dydd hwnnwmi gosbaf bawb sy'n camu dros y rhiniogac yn llenwi tŷ eu harglwydd â thrais a thwyll.
10 “Ar y dydd hwnnw,” medd yr ARGLWYDD,“clywir gwaedd o Borth y Pysgod,a chri o Ail Barth y ddinas,a malurio trystfawr o'r bryniau.
11 Gwaeddwch, drigolion y Farchnad.Oherwydd darfu am yr holl fasnachwyr,a thorrwyd ymaith yr holl bwyswyr arian.
12 “Yn yr amser hwnnwchwiliaf Jerwsalem â llusernau,a chosbaf y rhai sy'n ymbesgi uwch eu gwaddodac yn dweud wrthynt eu hunain,‘Ni wna'r ARGLWYDD na da na drwg.’
13 Anrheithir eu cyfoetha difethir eu tai;codant dai, ond ni chânt fyw ynddynt;plannant winllannoedd, ond ni chânt yfed eu gwin.”
14 Y mae dydd mawr yr ARGLWYDD yn agos,yn agos ac yn dod yn gyflym;chwerw yw trwst dydd yr ARGLWYDD,ac yna y gwaedda'r rhyfelwr yn uchel.