15 Trodd yr ARGLWYDD dy gosb oddi wrthyt,a symud dy elynion.Y mae brenin Israel, yr ARGLWYDD, yn dy ganol,ac nid ofni ddrwg mwyach.
16 Y dydd hwnnw dywedir wrth Jerwsalem,“Nac ofna, Seion,ac na laesa dy ddwylo;
17 y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn dy ganol,yn rhyfelwr i'th waredu;fe orfoledda'n llawen ynot,a'th adnewyddu yn ei gariad;llawenycha ynot â chân
18 fel ar ddydd gŵyl.Symudaf aflwydd ymaith oddi wrthyt,rhag bod iti gywilydd o'i blegid.
19 Wele fi'n talu'r pwyth i'th orthrymwyr yn yr amser hwnnw;gwaredaf y rhai cloff a chasglaf y rhai gwasgaredig,a rhof iddynt glod ac enw yn holl dir eu gwarth.
20 Y pryd hwnnw,pan fydd yn amser i'ch casglu, mi ddof â chwi adref;oherwydd rhof i chwi glod ac enwymhlith holl bobloedd y ddaear,pan adferaf eich llwyddiant yn eich gŵydd,” medd yr ARGLWYDD.