5 Ond y mae'r ARGLWYDD yn ei chanol yn gyfiawn;nid yw'n gwneud cam;fore ar ôl bore y mae'n traddodi barnheb ballu ar doriad y dydd;ond ni ŵyr yr anghyfiawn gywilydd.
6 “Torrais ymaith genhedloedd,ac y mae eu tyrau'n garnedd;gwneuthum eu strydoedd yn ddiffeithwchnad eir trwyddo;anrheithiwyd eu dinasoedd,heb bobl, heb drigiannydd.
7 Dywedais, ‘Bydd yn sicr o'm hofnia derbyn cyngor,ac ni chyll olwg ar y cyfana ddygais arni.’Ond yr oeddent yn eiddgar i lygru eu holl weithredoedd.
8 “Felly, disgwyliwch amdanaf,” medd yr ARGLWYDD,“am y dydd y codaf yn dyst i'ch erbyn;oherwydd fy mwriad yw casglu cenhedloedda chynnull teyrnasoedd,i dywallt fy nicter arnynt,holl gynddaredd fy llid;oherwydd â thân fy llid yr ysir yr holl dir.
9 “Yna, rhof i'r bobloedd wefus bur,iddynt oll alw ar enw'r ARGLWYDDa'i wasanaethu'n unfryd.
10 O'r tu hwnt i afonydd Ethiopiay dygir offrwm i mi gan y rhai ar wasgarsy'n ymbil arnaf.
11 “Ar y dydd hwnnwni'th waradwyddir am dy holl waithyn gwrthryfela i'm herbyn;oherwydd symudaf o'th blithy rhai sy'n ymhyfrydu mewn balchder,ac ni fyddi byth mwy'n ymddyrchafuyn fy mynydd sanctaidd.