21 sydd drwyddo ef yn credu yn Nuw, yr hwn a'i cyfododd ef oddi wrth y meirw ac a roes iddo ogoniant, fel y byddai eich ffydd a'ch gobaith chwi yn Nuw.
22 Gan eich bod, trwy eich ufudd-dod i'r gwirionedd, wedi puro eich eneidiau nes ennyn brawdgarwch diragrith, carwch eich gilydd o galon bur yn angerddol.
23 Yr ydych wedi eich geni o'r newydd, nid o had llygradwy, ond anllygradwy, trwy air Duw, sydd yn fyw ac yn aros.
24 Oherwydd, yng ngeiriau'r Ysgrythur:“Y mae pob un meidrol fel glaswellt,a'i holl ogoniant fel blodeuyn y maes.Y mae'r glaswellt yn crino,a'r blodeuyn yn syrthio,
25 ond y mae gair yr Arglwydd yn aros am byth.”A dyma'r gair a bregethwyd yn Efengyl i chwi.