1 Ymaith gan hynny â phob drygioni a phob twyll a rhagrith a chenfigen, a phob siarad bychanus!
2 Fel babanod newydd eu geni, blysiwch am laeth ysbrydol pur, er mwyn ichwi drwyddo gynyddu i iachawdwriaeth,
3 os ydych wedi profi tiriondeb yr Arglwydd.
4 Wrth ddod ato ef, y maen bywiol, gwrthodedig gan bobl ond etholedig a chlodfawr gan Dduw,
5 yr ydych chwithau hefyd, fel meini bywiol, yn cael eich adeiladu yn dŷ ysbrydol, i fod yn offeiriadaeth sanctaidd, er mwyn offrymu aberthau ysbrydol, cymeradwy gan Dduw trwy Iesu Grist.
6 Oherwydd y mae'n sefyll yn yr Ysgrythur:“Wele fi'n gosod maen yn Seion,conglfaen etholedig a chlodfawr,a'r hwn sy'n credu ynddo, ni chywilyddir byth mohono.”
7 Y mae ei glod, gan hynny, yn eiddoch chwi, y credinwyr; ond i'r anghredinwyr,“Y maen a wrthododd yr adeiladwyr,hwn a ddaeth yn faen y gongl”,