11 rhaid iddo droi oddi wrth ddrwg a gwneud da,ceisio heddwch a'i ddilyn;
12 canys y mae llygaid yr Arglwydd ar y cyfiawn,a'i glustiau'n agored i'w deisyfiad,ond y mae wyneb yr Arglwydd yn erbyn y rhai sy'n gwneud drygioni.”
13 Felly, pwy a wna niwed ichwi os byddwch yn selog tros ddaioni?
14 Ond hyd yn oed pe digwyddai ichwi ddioddef o achos cyfiawnder, gwyn eich byd! Peidiwch â'u hofni hwy, a pheidiwch â chymryd eich tarfu,
15 ond sancteiddiwch Grist yn Arglwydd yn eich calonnau. Byddwch yn barod bob amser i roi ateb i bob un fydd yn ceisio gennych gyfrif am y gobaith sydd ynoch. Ond gwnewch hynny gydag addfwynder a pharchedig ofn,
16 gan gadw eich cydwybod yn lân; ac yna, lle'r ydych yn awr yn cael eich sarhau, fe godir cywilydd ar y rhai sy'n dilorni eich ymarweddiad da yng Nghrist.
17 Oherwydd gwell yw dioddef, os dyna ewyllys Duw, am wneud da nag am wneud drwg.