7 Yn yr un modd, chwi wŷr, byddwch yn ystyriol yn eich bywyd priodasol; rhowch y parch dyladwy i'r wraig, gan mai hi yw'r llestr gwannaf, a chan eich bod yn gydetifeddion y gras sy'n rhoi bywyd. Felly, ni chaiff eich gweddïau mo'u rhwystro.
8 Yn olaf, bawb ohonoch, byddwch o'r un meddwl yn cydymdeimlo â'ch gilydd yn frawdol, yn dyner eich calon, yn ostyngedig eich ysbryd.
9 Peidiwch â thalu drwg am ddrwg na sen am sen. I'r gwrthwyneb, bendithiwch! Oherwydd i hyn y cawsoch eich galw—er mwyn i chwi etifeddu bendith.
10 Yng ngeiriau'r Ysgrythur:“Yr hwn sy'n ewyllysio caru bywyda gweld dyddiau da,rhaid iddo atal ei dafod rhag drwg,a'i wefusau rhag llefaru celwydd;
11 rhaid iddo droi oddi wrth ddrwg a gwneud da,ceisio heddwch a'i ddilyn;
12 canys y mae llygaid yr Arglwydd ar y cyfiawn,a'i glustiau'n agored i'w deisyfiad,ond y mae wyneb yr Arglwydd yn erbyn y rhai sy'n gwneud drygioni.”
13 Felly, pwy a wna niwed ichwi os byddwch yn selog tros ddaioni?