1 Am hynny, gan i Grist ddioddef yn y cnawd, cymerwch chwithau yr un meddwl yn arfogaeth i chwi—oherwydd y mae'r sawl a ddioddefodd yn y cnawd wedi darfod â phechod—
2 fel na fydd ichwi mwyach dreulio gweddill eich amser yn y cnawd yn ôl chwantau dynol, ond yn ôl ewyllys Duw.
3 Oherwydd y mae'r amser a aeth heibio yn hen ddigon i fod wedi gwneud y pethau y mae bryd y Cenhedloedd arnynt, gan rodio mewn trythyllwch, chwantau, meddwdod, cyfeddach, diota ac eilunaddoliaeth ffiaidd.
4 Yn hyn o beth, y mae pobl yn ei gweld yn rhyfedd nad ydych chwi'n dal i ruthro gyda hwy i'r un llifeiriant o afradlonedd; ac y maent yn eich cablu.
5 Bydd raid iddynt roi cyfrif i'r hwn sydd yn barod i farnu'r byw a'r meirw.
6 I'r diben hwn y pregethwyd yr Efengyl i'r meirw hefyd; er mwyn iddynt—er cael eu barnu yn y cnawd fel y bernir pawb—fyw yn yr ysbryd fel y mae Duw yn byw.