15 Ni ddylai neb ohonoch ddioddef fel llofrudd neu leidr neu ddrwgweithredwr, neu fel dyn busneslyd.
16 Ond os bydd i rywun ddioddef fel Cristion, ni ddylai gywilyddio, ond gogoneddu Duw trwy'r enw hwn.
17 Oherwydd y mae'n bryd i'r farn ddechrau, a dechrau gyda theulu Duw. Ac os gyda ni yn gyntaf, beth fydd diwedd y rhai sy'n anufudd i Efengyl Duw?
18 Yng ngeiriau'r Ysgrythur:“Ac os o'r braidd yr achubir y cyfiawn,ple bydd yr annuwiol a'r pechadur yn sefyll?”
19 Am hynny, bydded i'r rhai sy'n dioddef yn ôl ewyllys Duw ymddiried eu heneidiau i'r Creawdwr ffyddlon, gan wneud daioni.