1 Paul a Silfanus a Timotheus at eglwys y Thesaloniaid yn Nuw ein Tad a'r Arglwydd Iesu Grist.
2 Gras a thangnefedd i chwi oddi wrth Dduw ein Tad a'r Arglwydd Iesu Grist.
3 Dylem ddiolch i Dduw bob amser amdanoch chwi, gyfeillion, fel y mae'n weddus, am fod eich ffydd yn cynyddu'n ddirfawr, a chariad pob un ohonoch tuag at ei gilydd yn dyfnhau,
4 nes ein bod ninnau yn ymffrostio ynoch ymysg eglwysi Duw, o achos eich dyfalbarhad a'ch ffydd dan yr holl erledigaethau a'r gorthrymderau yr ydych yn eu dioddef.
5 Y mae hyn yn brawf o farn gyfiawn Duw, fel y cewch eich cyfrif yn deilwng o deyrnas Dduw, y deyrnas, yn wir, yr ydych yn dioddef er ei mwyn.
6 Cyfiawn ar ran Duw, yn sicr, yw talu gorthrymder yn ôl i'r rhai sydd yn eich gorthrymu chwi,