7 a rhoi esmwythâd i chwi sy'n cael eich gorthrymu, ac i ninnau hefyd, pan ddatguddir yr Arglwydd Iesu o'r nef gyda'i angylion nerthol.
8 Fe ddaw mewn fflamau tân, gan ddial ar y rhai nad ydynt yn adnabod Duw a'r rhai nad ydynt yn ufuddhau i Efengyl ein Harglwydd Iesu.
9 Dyma'r rhai fydd yn dioddef dinistr tragwyddol yn gosb, wedi eu cau allan o bresenoldeb yr Arglwydd ac o ogoniant ei nerth ef,
10 pan ddaw, yn y Dydd hwnnw, i'w ogoneddu gan ei saint ac i fod yn destun rhyfeddod gan bawb a gredodd; oherwydd y mae'r dystiolaeth a gyhoeddwyd gennym ni i chwi wedi ei chredu.
11 I'r diben hwn hefyd yr ydym bob amser yn gweddïo drosoch chwi, ar i'n Duw ni eich cyfrif yn deilwng o'i alwad, a chyflawni trwy ei nerth bob awydd am ddaioni a phob gweithred o ffydd,
12 fel y bydd enw ein Harglwydd Iesu yn cael ei ogoneddu ynoch chwi, a chwithau ynddo yntau, yn ôl gras ein Duw a'r Arglwydd Iesu Grist.