11 Oherwydd hyn y mae Duw yn anfon arnynt dwyll, i beri iddynt gredu celwydd,
12 ac felly bydd pawb sydd heb gredu'r gwirionedd, ond wedi ymhyfrydu mewn anghyfiawnder, yn cael eu barnu.
13 Ond fe ddylem ni ddiolch i Dduw bob amser amdanoch chwi, gyfeillion annwyl gan yr Arglwydd, am i Dduw eich dewis chwi fel y rhai cyntaf i brofi iachawdwriaeth trwy waith sancteiddiol gan yr Ysbryd a thrwy gredu'r gwirionedd.
14 I hyn y galwodd ef chwi, trwy'r Efengyl yr ydym ni yn ei phregethu: i feddiannu gogoniant ein Harglwydd Iesu Grist.
15 Am hynny, gyfeillion, safwch yn gadarn, a glynwch wrth y traddodiadau yr ydych wedi eu dysgu gennym ni, naill ai ar air neu trwy lythyr.
16 A bydded i'n Harglwydd Iesu Grist ei hun, a Duw ein Tad, yr hwn sydd wedi ein caru ac wedi rhoi i ni ddiddanwch tragwyddol a gobaith da trwy ras,
17 ddiddanu eich calonnau a'ch cadarnhau ym mhob gweithred a gair da!