2 beidio â chymryd eich ysgwyd yn ddisymwth allan o'ch pwyll, na'ch cynhyrfu gan ddatganiad ysbryd, neu air, neu lythyr yn honni ei fod oddi wrthym ni, i'r perwyl fod Dydd yr Arglwydd eisoes wedi dod.
3 Peidiwch â chymryd eich twyllo gan neb mewn unrhyw fodd; oherwydd ni ddaw'r Dydd hwnnw nes i'r gwrthgiliad ddod yn gyntaf, ac i'r un digyfraith, plentyn colledigaeth, gael ei ddatguddio.
4 Dyma'r gwrthwynebydd sy'n ymddyrchafu yn erbyn pob un a elwir yn dduw neu sy'n wrthrych addoliad, nes eistedd ei hunan yn nheml Duw, gan gyhoeddi mai ef sydd Dduw.
5 Onid ydych yn cofio fy mod wedi dweud hyn wrthych pan oeddwn eto gyda chwi?
6 Ac yn awr, gwyddoch am yr hyn sydd yn ei ddal yn ôl er mwyn sicrhau mai yn ei briod amser y datguddir ef.
7 Oherwydd y mae grym dirgelwch anghyfraith eisoes ar waith, eithr dim ond nes y bydd yr hwn sydd yn awr yn ei ddal yn ôl wedi ei symud o'r ffordd.
8 Ac yna fe ddatguddir yr un digyfraith, a bydd yr Arglwydd Iesu yn ei ladd ag anadl ei enau, ac yn ei ddiddymu trwy ysblander ei ddyfodiad.