1 Bellach, gyfeillion, gweddïwch drosom ni, ar i air yr Arglwydd fynd rhagddo a chael ei ogoneddu, fel y cafodd yn eich plith chwi,
2 ac ar i ni gael ein gwaredu oddi wrth bobl groes a drwg; oherwydd nid yw pawb yn meddu ar ffydd.
3 Ond y mae'r Arglwydd yn ffyddlon, ac fe'ch cadarnha chwi a'ch gwarchod rhag yr Un drwg.
4 Y mae gennym hyder yn yr Arglwydd amdanoch, eich bod yn gwneud y pethau yr ydym yn eu gorchymyn, ac y byddwch yn dal i'w gwneud.