15 Eto peidiwch â'u hystyried fel gelynion, ond rhybuddiwch hwy fel cyfeillion.
16 Bydded i Arglwydd tangnefedd ei hun roi tangnefedd ichwi bob amser ym mhob modd! Bydded yr Arglwydd gyda chwi oll!
17 Y mae'r cyfarchiad yn fy llaw i, Paul. Hwn yw'r arwydd ym mhob llythyr; fel hyn y byddaf yn ysgrifennu.
18 Gras ein Harglwydd Iesu Grist fyddo gyda chwi oll!