1 Yng ngŵydd Duw a Christ Iesu, yr hwn sydd i farnu'r byw a'r meirw, yr wyf yn dy rybuddio ar gyfrif ei ymddangosiad a'i deyrnas ef:
2 pregetha'r gair; bydd yn barod bob amser, boed yn gyfleus neu'n anghyfleus; argyhoedda; cerydda; calonoga; a hyn ag amynedd diball wrth hyfforddi.
3 Oherwydd fe ddaw amser pan na fydd pobl yn goddef athrawiaeth iach ond yn dilyn eu chwantau eu hunain, ac yn crynhoi o'u cwmpas liaws o athrawon i oglais eu clustiau,
4 gan droi oddi wrth y gwirionedd i wrando ar chwedlau.
5 Ond yn hyn oll cadw di ddisgyblaeth arnat dy hun: goddef galedi; gwna waith efengylwr; cyflawna holl ofynion dy weinidogaeth.
6 Oherwydd y mae fy mywyd i eisoes yn cael ei dywallt mewn aberth, ac y mae amser fy ymadawiad wedi dod.