11 Gyfaill annwyl, efelycha ddaioni, nid drygioni. Y sawl sy'n gwneud daioni, o Dduw y mae; ond y sawl sy'n gwneud drygioni, nid yw wedi gweld Duw.
12 Y mae gair da i Demetrius gan bawb, a chan y gwirionedd ei hun; ac yr ydym ninnau hefyd yn tystio iddo, a gwyddost fod ein tystiolaeth ni yn wir.
13 Y mae gennyf lawer o bethau i'w hysgrifennu atat, ond gwell gennyf beidio ag ysgrifennu atat â phen ac inc.
14 Rwy'n gobeithio dy weld yn fuan, a chawn siarad wyneb yn wyneb.
15 Tangnefedd i ti! Y mae'r cyfeillion yma yn dy gyfarch. Cyfarch di y cyfeillion yna, bob un wrth ei enw.