14 Oherwydd ef yw ein heddwch ni. Gwnaeth y ddau, yr Iddewon a'r Cenhedloedd, yn un, wedi chwalu trwy ei gnawd ei hun y canolfur o elyniaeth oedd yn eu gwahanu.
15 Dirymodd y Gyfraith, a'i gorchmynion a'i hordeiniadau. Ac felly, i wneud heddwch, creodd o'r ddau un ddynoliaeth newydd ynddo ef ei hun,
16 er mwyn cymodi'r ddau â Duw, mewn un corff, trwy'r groes; trwyddi hi fe laddodd yr elyniaeth.
17 Fe ddaeth, a phregethu heddwch i chwi y rhai pell, a heddwch hefyd i'r rhai agos.
18 Oherwydd trwyddo ef y mae gennym ni ein dau ffordd i ddod, mewn un Ysbryd, at y Tad.
19 Felly, nid estroniaid a dieithriaid ydych mwyach, ond cyd-ddinasyddion â'r saint ac aelodau o deulu Duw.
20 Yr ydych wedi eich adeiladu ar sylfaen yr apostolion a'r proffwydi, a'r conglfaen yw Crist Iesu ei hun.