18 oherwydd tywyllwch sydd yn eu deall, a dieithriaid ydynt i'r bywyd sydd o Dduw, o achos yr anwybodaeth y maent yn ei choleddu a'r ystyfnigrwydd sydd yn eu calon.
19 Pobl ydynt sydd wedi colli pob teimlad ac wedi ymollwng i'r anlladrwydd sy'n peri iddynt gyflawni pob math o aflendid yn ddiymatal.
20 Ond nid felly yr ydych chwi wedi dysgu Crist,
21 chwi sydd, yn wir, wedi clywed amdano ac wedi eich hyfforddi ynddo, yn union fel y mae'r gwirionedd yn Iesu.
22 Fe'ch dysgwyd eich bod i roi heibio'r hen natur ddynol oedd yn perthyn i'ch ymarweddiad gynt ac sy'n cael ei llygru gan chwantau twyllodrus,
23 a'ch bod i gael eich adnewyddu mewn ysbryd a meddwl,
24 a gwisgo amdanoch y natur ddynol newydd sydd wedi ei chreu ar ddelw Duw, yn y cyfiawnder a'r sancteiddrwydd sy'n gweddu i'r gwirionedd.