3 Ymrowch i gadw, â rhwymyn tangnefedd, yr undod y mae'r Ysbryd yn ei roi.
4 Un corff sydd, ac un Ysbryd, yn union fel mai un yw'r gobaith sy'n ymhlyg yn eich galwad;
5 un Arglwydd, un ffydd, un bedydd,
6 un Duw a Thad i bawb, yr hwn sydd goruwch pawb, a thrwy bawb, ac ym mhawb.
7 Ond i bob un ohonom rhoddwyd gras, ei ran o rodd Crist.
8 Am hynny y mae'r Ysgrythur yn dweud:“Esgynnodd i'r uchelder, gan arwain ei garcharorion yn gaeth;rhoddodd roddion i bobl.”
9 Beth yw ystyr “esgynnodd”? Onid yw'n golygu ei fod wedi disgyn hefyd i barthau isaf y ddaear?