16 Daliwch ar eich cyfle, oherwydd y mae'r dyddiau'n ddrwg.
17 Am hynny, peidiwch â bod yn ffôl, ond deallwch beth yw ewyllys yr Arglwydd.
18 Peidiwch â meddwi ar win (afradlonedd yw hynny), ond llanwer chwi â'r Ysbryd.
19 Cyfarchwch eich gilydd â salmau ac emynau a chaniadau ysbrydol; canwch a phynciwch o'ch calon i'r Arglwydd.
20 Diolchwch bob amser am bob dim i Dduw y Tad yn enw ein Harglwydd Iesu Grist;
21 a byddwch ddarostyngedig i'ch gilydd, o barchedig ofn tuag at Grist.
22 Chwi wragedd, byddwch ddarostyngedig i'ch gwŷr fel i'r Arglwydd;