23 oherwydd y gŵr yw pen y wraig, fel y mae Crist hefyd yn ben yr eglwys; ac ef yw Gwaredwr y corff.
24 Ond fel y mae'r eglwys yn ddarostyngedig i Grist, felly y mae'n rhaid i'r gwragedd fod i'w gwŷr ym mhob peth.
25 Chwi wŷr, carwch eich gwragedd, fel y carodd Crist yntau'r eglwys a'i roi ei hun drosti,
26 i'w sancteiddio a'i glanhau â'r golchiad dŵr a'r gair,
27 er mwyn iddo ef ei hun ei chyflwyno iddo'i hun yn ei llawn ogoniant, heb fod arni frycheuyn na chrychni na dim byd o'r fath, iddi fod yn sanctaidd a di-fai.
28 Yn yr un modd, dylai'r gwŷr garu eu gwragedd fel eu cyrff eu hunain. Y mae'r gŵr sy'n caru ei wraig yn ei garu ei hun.
29 Ni chasaodd neb erioed ei gnawd ei hun; yn hytrach y mae'n ei feithrin a'i ymgeleddu. Felly y gwna Crist hefyd â'r eglwys;