1 Paul, apostol—nid o benodiad dynol, na chwaith trwy awdurdod neb dynol, ond trwy awdurdod Iesu Grist a Duw Dad, yr hwn a'i cyfododd ef oddi wrth y meirw—Paul,
2 a'r credinwyr oll sydd gyda mi, at eglwysi Galatia.
3 Gras a thangnefedd i chwi oddi wrth Dduw ein Tad a'r Arglwydd Iesu Grist,
4 yr hwn a'i rhoes ei hun dros ein pechodau ni, i'n gwaredu ni o'r oes ddrwg bresennol, yn ôl ewyllys Duw ein Tad,
5 i'r hwn y bo'r gogoniant byth bythoedd! Amen.
6 Yr wyf yn synnu eich bod yn cefnu mor fuan ar yr hwn a'ch galwodd chwi trwy ras Crist, ac yn troi at efengyl wahanol.