19 Ni welais neb arall o'r apostolion, ar wahân i Iago, brawd yr Arglwydd.
20 Gerbron Duw, nid celwydd yr wyf yn ei ysgrifennu atoch.
21 Wedyn euthum i diriogaethau Syria a Cilicia.
22 Nid oedd gan y cynulleidfaoedd sydd yng Nghrist yn Jwdea ddim adnabyddiaeth bersonol ohonof,
23 dim ond eu bod yn clywed rhai'n dweud, “Y mae ein herlidiwr gynt yn awr yn pregethu'r ffydd yr oedd yn ceisio'i difrodi o'r blaen.”
24 Ac yr oeddent yn gogoneddu Duw o'm hachos i.