1 Wedyn, ymhen pedair blynedd ar ddeg, euthum unwaith eto i fyny i Jerwsalem ynghyd â Barnabas, gan gymryd Titus hefyd gyda mi.
2 Euthum i fyny mewn ufudd-dod i ddatguddiad. Gosodais ger eu bron—o'r neilltu, gerbron y rhai a gyfrifir yn arweinwyr—yr Efengyl yr wyf yn ei phregethu ymhlith y Cenhedloedd, rhag ofn fy mod yn rhedeg, neu wedi rhedeg, yn ofer.
3 Ond ni orfodwyd enwaedu ar fy nghydymaith Titus hyd yn oed, er mai Groegwr ydoedd.
4 Codwyd y mater o achos y gau gredinwyr, llechgwn a oedd wedi llechian i mewn fel ysbiwyr ar y rhyddid sy'n eiddo i ni yng Nghrist Iesu, gyda'r bwriad o'n caethiwo ni.